Rydyn ni’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau dwy awr o hyd, yn rhad ac am ddim, ar draws Cymru i hyrwyddo ac annog y defnydd o’r Gymraeg yn y sector gofal.
Bydd y digwyddiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth o sut mae’r Gymraeg ar unrhyw lefel yn sgil ac yn amlygu’r adnoddau sydd ar gael i’ch cefnogi chi a’ch sefydliad i gwrdd â’r Cynnig Rhagweithiol.
Hefyd bydd y digwyddiadau hyn yn darparu gwybodaeth am y rhaglen Cymraeg Gwaith a’r manteision o adeiladu hyder gweithwyr fel eu bod yn teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus wrth gael sgyrsiau gyda’r bobl y maen nhw’n eu cefnogi trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ogystal, byddwn ni’n cynnal marchnad lle gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth i’ch helpu chi ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i chi rhannu gwybodaeth ac ymarfer da. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth cyn archebu lle, e-bostiwch sandie.grieve@gofalcymdeithasol.cymru neu liz.king-jones@gofalcymdeithasol.cymru.
Bydd mynychu’r digwyddiadau yma yn cyfri tuag at eich hyfforddiant a dysgu ôl-gymhwyso.
Archebwch eich lle
- 2.30-4.30pm, 15 Mai: Wrecsam
- 9.30-11.30am, 16 Mai: Caernarfon
- 10am-hanner dydd, 31 Mai: Caerdydd
- 10am-hanner dydd, 7 Mehefin, Powys
- 10am-hanner dydd, 13 Mehefin: Caerfyrddin.