Beth yw Coffi@Cwtsh?
Cyfarfodydd ar-lein bob pythefnos ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal yw Coffi@Cwtsh, lle gallwch chi gysylltu â rheolwyr cartrefi gofal eraill ledled Cymru.
Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd yw hi i ddod o hyd i amser, felly rydyn ni’n newid y Cwtsh i’w gwneud hi’n haws i chi ymuno â ni pan allwch chi. O 29 Medi, byddwn ni’n agor ein hystafell goffi ar-lein bob pythefnos lle gallwch chi alw heibio a rhannu syniadau.
Ar gyfer pwy mae Coffi@Cwtsh?
Mae’r Cwtsh ar gyfer unrhyw un sydd â rôl reoli, gan gynnwys dirprwy reolwyr ac arweinwyr a rheolwyr nyrsio clinigol.
Sut alla i gofrestru a dysgu mwy?
Cofrestrwch ar gyfer ein cyfarfod nesaf ar 29 Medi.
Os hoffech chi gael sgwrs i ddysgu mwy, rhowch e-bost i ni ar lles@gofalcymdeithasol.cymru neu anfonwch neges destun at 07780 993649.