CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Sut mae gwrandawiadau'n gweithio

Pan godir pryder am berson cofrestredig, gellir ymchwilio iddo. Os yw'r dystiolaeth yn dangos y gallai'r person cofrestredig fod yn risg i'r cyhoedd os byddant yn parhau i weithio, efallai y byddwn yn gofyn i wrandawiad gael ei gynnal. Dyma wybodaeth am y gwahanol fathau o wrandawiadau, yr hyn sy'n digwydd mewn gwrandawiad a sut gall personau cofrestredig apelio yn erbyn penderfyniad a wneir.

Gwyliwch y fideo hwn i weld sut mae gwrandawiadau’n gweithio ar Zoom a’r fideo hwn o ran pwy fydd yn y gwrandawiad.

Beth yw gwrandawiad

Cyfarfod ffurfiol yw gwrandawiad lle mae panel o bobl yn edrych ar y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o ymchwiliad i bryder a godwyd am ymddygiad person cofrestredig.

Y panel fydd yn penderfynu a ddylai’r person cofrestredig barhau i weithio mewn gofal cymdeithasol neu beidio. Gellir cynnal gwrandawiadau yn gyhoeddus neu’n breifat.

Gofynnir i’r person cofrestredig fynychu’r gwrandawiad er mwyn iddyn nhw allu siarad â’r panel i roi eu hochr nhw. Mae hyn yn sicrhau bod y panel yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau ac ystyried y dystiolaeth yn ofalus ac yn deg.

Gall person cofrestredig gael cynrychiolaeth gyda nhw yn y gwrandawiad, fel cyfreithiwr neu gynrychiolydd undeb (os ydyn nhw’n aelod o undeb).

Efallai y bydd gan rai gwrandawiadau ‘dystion’. Tyst yw rhywun y mae naill ai ni neu’r person cofrestredig wedi gofyn iddyn nhw ddod i wrandawiad i siarad â’r panel i’w helpu i ddeall y dystiolaeth y byddan nhw’n edrych arni.

Dim ond gwrandawiadau cyhoeddus yn unig y gall aelodau’r cyhoedd, y cyfryngau a’r wasg fynychu.

Mwy o wybodaeth am fod yn dyst mewn gwrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru.

Pa wrandawiadau rydyn ni'n eu cynnal

Gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer

Mae gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer yn edrych ar achosion lle gallai addasrwydd person cofrestredig i ymarfer fod wedi’i amharu, sy’n golygu efallai na fyddan nhw’n gweithio i’r safonau uchel a ddisgwylir ganddyn nhw fel y nodir gan y Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.

Fel arfer, cynhelir gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer yn gyhoeddus, ond mae rhai yn cael eu cynnal yn breifat.

Gwahoddir y person cofrestredig i fynychu’r gwrandawiad fel y gallant siarad â'r panel ac egluro pam eu bod yn meddwl eu bod yn addas i ymarfer.

Dyma restr o'r gwrandawiadau sydd i ddod a chanlyniadau'r gwrandawiadau.

Mae rheolau gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer yn egluro’r broses y mae’n rhaid i ni ei dilyn cyn, yn ystod ac ar ôl gwrandawiad addasrwydd i ymarfer, a sut dylid cynnal gwrandawiad. Mwy o wybodaeth am reolau gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer.

Gwrandawiadau gorchmynion dros dro

Mae'r panel gorchmynion dros dro yn penderfynu a ddylid gosod gorchymyn dros dro ar gofrestriad person cofrestredig os ydyn nhw’n credu eu bod yn risg i’r cyhoedd, neu ei fod o fudd i’r cyhoedd tra bo ymchwiliad yn digwydd. Cynhelir gwrandawiadau gorchymyn dros dro yn breifat.

Gwahoddir y person cofrestredig i fynychu er mwyn siarad â’r panel i egluro pam eu bod yn meddwl na ddylen nhw gael gorchymyn dros dro.

Ceir dau fath o orchymyn y gellir eu gosod ar gofrestriad person cofrestredig, sef orchmynion atal dros dro, neu gorchymyn cofrestru amodol dros dro.

Mae rheolau gorchmynion dros dro yn egluro’r broses y mae’n rhaid i ni ei dilyn cyn, yn ystod ac ar ôl gwrandawiad neu gyfarfod panel gorchmynion dros dro, a sut dylid cynnal gwrandawiad neu gyfarfod.

Gwrandawiadau apeliadau cofrestru

Os ydyn ni wedi gwrthod eich cais cofrestru neu adnewyddu cofrestru gallwch chi apelio yn erbyn ein penderfyniad. Ni allwch chi apelio yn erbyn y penderfyniad os yw’n seiliedig ar unrhyw un o’r canlynol:

  • methu talu'r ffi sydd ei angen i wneud cais
  • methu gwneud cais yn y ffurf a’r modd sy’n ofynnol
  • methu â darparu'r dogfennau sydd eu hangen i gefnogi'ch cais..

Hefyd, ni allwch apelio os ydyn ni wedi gwrthod eich cais ar sail canlyniadau prawf dawn/tueddfryd neu gyfnod addasu (lle mae cymhwyster wedi'i gyflawni).

Pan allwn ni ystyried apêl, gall y panel apeliadau cofrestru:

  • cadarnhau'r penderfyniad gwreiddiol
  • disodli’r penderfyniad (rhaid i’r penderfyniad newydd fod o fath y gallai’r Cofrestrydd fod wedi’i wneud yn wreiddiol)
  • ei anfon yn ôl at y Cofrestrydd gyda chyfarwyddiadau ynghylch sut y dylem ni gael gwared ar y mater.

Fel arfer mae gwrandawiadau paneli apêl cofrestru yn cael eu cynnal yn gyhoeddus ond mewn rhai amgylchiadau gellir eu cynnal yn breifat.

Fel ymgeisydd neu berson cofrestredig cewch chi fynychu’r gwrandawiad i egluro i’r panel pam y teimlwch y dylai eich cais cael ei ganiatáu. Gallwch chi hefyd gael eich cynrychioli yn y gwrandawiad hwn.

Gwneud cais i fynd yn ôl ar y Gofrestr ar ôl cael eich dileu gan banel

Mae'r panel apeliadau cofrestru hefyd yn edrych ar geisiadau i adfer i'r Gofrestr.

Mae hyn yn golygu eich bod yn cyflwyno cais os ydych chi wedi cael eich tynnu o’r Gofrestr gan banel addasrwydd i ymarfer yn dilyn pryderon am eich addasrwydd i ymarfer.

Os cewch chi eich tynnu oddi ar y Gofrestr drwy orchymyn dileu a’ch bod am ddod yn ôl ar y Gofrestr, mae’n rhaid i chi:

  • aros o leiaf pum mlynedd cyn gwneud cais am adfer
  • gwneud cais i'r rhan o'r Gofrestr y cawsoch chi eich dileu ohoni.

Ar ôl i gais i gael ei adfer cael ei ganiatáu gan banel apeliadau cofrestru gallwch chi wneud cais i gael eich cofrestru mewn rôl gofal cymdeithasol wahanol. Ni allwch chi wneud cais am y rôl arall heb gael eich adfer i'r Gofrestr yn gyntaf.

Mae rheolau paneli apelau cofrestru yn esbonio’r broses y mae’n rhaid i ni ei dilyn cyn, yn ystod ac ar ôl gwrandawiad panel apelau cofrestru, a sut y mae’n rhaid cynnal gwrandawiad.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais adfer i’r Gofrestr ar ôl cael eich dileu, darllenwch y canllawiau hyn.

Bod yn dyst mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer

Mewn rhai gwrandawiadau, gallwn ni benderfynu bod angen tystion i helpu panel gwrandawiad wneud penderfyniadau am honiadau yn erbyn person cofrestredig.

Tyst yw rhywun a fydd yn ateb cwestiynau’r panel am yr honiad neu’r pryder i gefnogi tystiolaeth naill ai Gofal Cymdeithasol Cymru neu dystiolaeth y person cofrestredig.

Bydd y swyddog achos addasrwydd i ymarfer yn cysylltu â chi neu’ch cyflogwr i ofyn i chi ddarparu datganiad tyst. Bydd y swyddog achos addasrwydd i ymarfer yn rhoi cwestiynau i chi ymlaen llaw ac yn esbonio i chi beth fydd yn digwydd gyda'r datganiad tyst rydych yn ei ddarparu. Bydd y datganiad tyst yn cael ei ddarparu i’r panel gwrandawiadau a byddan nhw’n gallu gofyn cwestiynau i chi am y wybodaeth a ddarparwyd gennych.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gofyn i chi fod yn dyst, gwyliwch y fideo hwn.

Mwy o wybodaeth ynglŷn â mynychu gwrandawiad fel tyst.

Paneli gwrandawiadau

Panel fydd yn penderfynu ar ganlyniad y gwrandawiad yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynir iddyn nhw gan geisydd neu berson cofrestredig a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae gan bob panel dri o bobl arno, sef ‘aelodau’r panel’.

Penodir aelodau’r panel am bedair blynedd, ond gallan nhw wneud cais i gael eu hailbenodi am bedair blynedd arall ond ni allant eistedd am fwy nag wyth mlynedd.

Mae aelodau'r panel yn cael eu recriwtio a'u penodi gennym ni ac maen nhw’n annibynnol.

Pwy sy'n bresennol yn y gwrandawiadau?

Mae’r fideo hwn yn egluro pwy sydd yn y gwrandawiad a’u rolau.

Pan fydd gwrandawiad yn cael ei gynnal, efallai y bydd nifer o bobl yn bresennol. Mae hyn yn gallu cynnwys:

  • y panel - mae tri o bobl arno. Y cadeirydd, aelod lleyg ac aelod gofal cymdeithasol. Mae’r cadeirydd wastad yn aelod lleyg. Mae aelod lleyg yn rhywun sydd heb unrhyw brofiad proffesiynol na chefndir mewn gofal cymdeithasol, ond gall fod yn ddefnyddiwr gofal a chymorth.
    Mae aelod gofal cymdeithasol yn rhywun sydd â phrofiad a chefndir proffesiynol mewn gofal cymdeithasol ac efallai eu bod wedi cofrestru gyda ni
  • cynghorydd cyfreithiol - cyfreithiwr sy’n cynghori’r panel ar faterion cyfreithiol ac sy’n sicrhau bod y gwrandawiad yn deg. Pan fydd y panel yn trafod achos yn breifat bydd y cynghorydd cyfreithiol gyda nhw. Nid yw’r cynghorydd cyfreithiol yn cymryd rhan ym mhroses breifat y panel o wneud penderfyniadau
  • cynghorydd meddygol - os yw’r panel yn ystyried tystiolaeth feddygol, mae’r cynghorydd meddygol yn rhoi cyngor i’r panel ar faterion meddygol. Pan fydd y panel yn trafod achos yn breifat, bydd y cynghorydd meddygol gyda nhw. Nid yw’r cynghorydd meddygol yn cymryd rhan ym mhroses breifat y panel o wneud penderfyniadau
  • clerc - nhw yw prif bwynt cyswllt y ceisydd neu’r person cofrestredig cyn ac yn ystod gwrandawiad. Maen nhw’n sicrhau bod gwrandawiadau'n rhedeg yn esmwyth a bod y penderfyniadau'n cael eu cofnodi'n gywir a bod y Gofrestr yn cael ei ddiweddaru, os bydd angen.

Pobl eraill a all fod yn bresennol

  • cyflwynydd - cyfreithiwr sy’n cyflwyno’r achos i’r panel
  • swyddog addasrwydd i ymarfer - y person a ymchwiliodd i’r honiadau ac yn cynghori’r cyflwynydd. Yn ystod yr ymchwiliad, mae’n debygol y bydd y swyddog addasrwydd i ymarfer wedi bod mewn cysylltiad â'r ceisydd neu’r person cofrestredig ac unrhyw dystion sy’n debygol o gael eu gwahodd i fynychu gwrandawiad
  • y ceisydd / person cofrestredig – y person y mae'r achos yn ei gylch
  • cynrychiolydd - i gefnogi a chyflwyno achos y ceisydd neu berson cofrestredig i'r panel
  • y cyhoedd - gan gynnwys y wasg. Gall unrhyw un arsylwi mewn gwrandawiad cyhoeddus drwy gysylltu â ni i gadw lle.

Gwybodaeth rydyn ni’n ei gyhoeddi

Mae Polisi Cyhoeddi Rheoleiddio’r Gweithlu yn nodi’r math o wybodaeth rydyn ni’n ei chynnwys ar ein Cofrestr a pha mor hir y bydd yn aros ar y Gofrestr.

Mae hefyd yn nodi'r wybodaeth rydyn ni’n ei chynnwys ar ein rhestr o bobl a dynnir oddi ar y Gofrestr a’r wybodaeth a gyhoeddwn am drafodion addasrwydd i ymarfer ar ein gwefan.

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad gwrandawiad

Os yw ceisydd neu berson cofrestredig eisiau apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan banel, dylent gysylltu â’r Tribiwnlys Safonau Gofal (Haen Gyntaf).

Bydd terfyn amser ar gyfer apelio, felly dylai ceisydd neu berson cofrestredig gysylltu â nhw cyn gynted â phosib ar ôl gwrandawiad.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Gofynnwch am gymorth a chyngor os ydych yn wynebu ymchwiliad neu wrandawiad addasrwydd i ymarfer.