CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Karen Walden
Rôl cofrestredig
Rheolwr cartrefi gofal oedolion
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol - Bramble Bay Ltd
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod honiadau o bryderon diogelu difrifol wedi’u profi yn erbyn Karen Walden, rheolwr cartref gofal i oedolion

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Karen Walden i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na all weithio mwyach mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru a bydd yn cael ei rhoi ar y rhestr o bobl a ddilëwyd.

Mae gan Karen Walden yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Bydd y gwrandawiad hwn yn ystyried pryderon diogelu difrifol a godwyd mewn perthynas ag ymddygiad Ms Walden.