Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.
Mae’r penderfyniad i gytuno’r cais yn cael ei wneud mewn Cynhadledd Achos. Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.
Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.
I benderfynnu os dylid dderbyn cais fe fydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ystyried os fod yr honiadau yn ymwneud â materion er budd y cyhoedd.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi penderfynu nad yw Jayne Brookes yn bodloni'r safonau sy'n ofynnol o weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig am ei bod wedi cymryd rhywbeth at ei defnydd personol o gartref unigolyn bregus sy'n defnyddio gwasanaethau. Roedd hyn yn gyfystyr â gweithred anonestrwydd yn groes i ymddiriedaeth ac efallai ei bod wedi rhoi defnyddwyr gofal a chymorth mewn perygl o niwed. Mae Ms Brookes hefyd wedi derbyn diffyg uniondeb yn ymwneud â'i chyfathrebu â'i chyflogwr.
Mae Ms Brookes yn cadarnhau nad yw’n bwriadu gweithio yn y dyfodol mewn unrhyw swydd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chofrestru gan GCC a'i bod yn dymuno i'w henw gael ei dynnu oddi ar gofrestr GCC drwy gytundeb o dan Reol 9 Rheolau Ymchwilio 2020.