Mae Panel Ffitrwydd i Ymarfer a eisteddodd o bell ar 22 - 29 Gorffennaf 2021 wedi canfod honiadau o fethiant i ddilyn gweithdrefnau ariannol a sicrhau bod rheolaeth ddigonol ar wasanaethau gofal cartref yn cael ei brofi yn erbyn Emma Ruth Hughes, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu’r Panel fod nam ar ffitrwydd i ymarfer cyfredol Emma Ruth Hughes a gosododwyd Gorchymyn Cofrestru Amodol am 21 mis. Mae hyn yn golygu y gall Emma Ruth Hughes barhau yn ei rôl cofrestredig ond rhaid iddi fodloni amodau penodol a nodwyd gan y panel.
Mae'r amodau a osodwyd fel a ganlyn:
1. RHAID i chi rhoi gwybod i’r unigolion / sefydliadau canlynol yn ysgrifenedig bod gennych amodau a osodwyd ar eich cofrestriad o dan weithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n datgelu copi ysgrifenedig o'r amodau hynny i:
a. unrhyw sefydliad neu berson sy'n eich cyflogi, yn contractio gyda chi neu'n eich defnyddio i wneud gwaith cymdeithasol neu waith gofal cymdeithasol (ar sail cyflogedig neu ddi-dâl);
b. unrhyw asiantaeth gofal cymdeithasol rydych chi wedi cofrestru gyda hi neu'n gwneud cais i fod wedi'ch cofrestru gyda hi (adeg y cais);
c. unrhyw ddarpar gyflogwr gofal cymdeithasol (adeg y cais).
2. Rhaid i chi rhoi gwybod i Gofal Cymdeithasol Cymru cyn pen 14 diwrnod ar ôl i chi dderbyn unrhyw apwyntiad gofal cymdeithasol (p'un a yw'n gyflogedig neu'n ddi-dâl) sy'n gofyn am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a rhoi manylion cyswllt y cyflogwr newydd i Gofal Cymdeithasol Cymru, teitl swydd y rôl rydych chi wedi'i derbyn, a chyfeiriad eich gweithle newydd.
3. Rhaid i chi o fewn 14 diwrnod ddarparu cadarnhad ysgrifenedig gan eich cyflogwr ‘newydd’ eu bod yn ymwybodol o’r amodau a osodwyd a’u bod yn barod i’ch cefnogi i gydymffurfio â’r amodau.
4. Rhaid i chi hysbysu Gofal Cymdeithasol Cymru am unrhyw ymchwiliad proffesiynol a gychwynnwyd yn eich erbyn a / neu unrhyw achos disgyblu proffesiynol a gymerwyd yn eich erbyn cyn pen 14 diwrnod ar ôl i chi dderbyn rhybudd o'r ymchwiliad neu'r achos.
Goruchwyliaeth
5. Pan fyddwch chi'n gyflogedig ac yn gweithio fel gweithiwr gofal cartref, rhaid i chi aros o dan oruchwyliaeth agos rheolwr llinell gweithle, mentor neu oruchwyliwr a enwir gan eich cyflogwr am y 12 wythnos gyntaf. Dylid cynnal cyfarfodydd goruchwylio o leiaf bob pythefnos am y mis cyntaf ac o leiaf bob tair wythnos am weddill y cyfnod o 12 wythnos. Rhaid i'r cyfarfodydd gynnwys adolygiad o'ch ymgysylltiad ag unigolion sy'n defnyddio gofal a chymorth, a'ch bod wedi cwblhau'r hyfforddiant sy'n ofynnol o dan amod 8 isod.
6. Rhaid i chi ofyn i'ch rheolwr llinell, mentor neu oruchwyliwr ddarparu i Gofal Cymdeithasol Cymru, cyn pen 28 diwrnod o ddiwedd y cyfnod o 12 wythnos,
a. cadarnhad bod y cyfarfodydd goruchwylio y cyfeirir atynt yn amod 5 wedi'u cwblhau, a;
b. copïau o gofnodion y cyfarfodydd hynny.
Cyfyngiad ymarfer
7. Rhaid i chi BEIDIO â rheoli gofal cartref. Mae hyn yn golygu na ddylech wneud unrhyw waith sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi fod yn gyfrifol am reoli gweithwyr gofal cartref eraill.
Hyfforddiant
8. Naill ai cyn ichi ddychwelyd i ymarfer fel Gweithiwr Gofal Cartref neu o fewn 12 wythnos gyntaf eich dychweliad, rhaid i chi ymgymryd yn llwyddiannus (ar eich cost chi neu gost eich cyflogwr):
a. Lefel 2 Hyfforddiant Diogelu Oedolion sy'n para o leiaf tair awr ac yn cael ei ddarparu wyneb yn wyneb (naill ai'n bersonol neu drwy gynhadledd fideo);
b. Hyfforddiant mewn perthynas â'r cyfrifoldeb i riportio pryderon am arfer gwael, ecsbloetiol neu ymosodol (“Hyfforddiant Chwythu'r Chwiban”);
c. Hyfforddiant yn egwyddorion sylfaenol gofal cymdeithasol fel Hyfforddiant Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
a darparu tystiolaeth ysgrifenedig, fel tystysgrifau presenoldeb, o fynychu a phasio'r hyfforddiant gofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru cyn pen 14 diwrnod ar ôl cwblhau'r cwrs olaf.
9. Rhaid i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer unrhyw hyfforddiant neu ddysgu a bennir ym mharagraff 8 cyn i chi ddechrau ar unrhyw gwrs neu ddysgu.
Bydd y Gorchymyn yn cael ei adolygu 3 mis cyn iddo ddod i ben.
Mae gan Emma Ruth Hughes yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru