CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adnoddau i'ch helpu chi

Enghreifftiau o logiau cynnydd ac astudiaethau achos wedi'u cwblhau i ddangos sut y gellir defnyddio'r Fframwaith Sefydlu i gefnogi cofrestru rheolwyr gofal cymdeithasol nad oes ganddynt un o'r cymwysterau gofynnol.

Cyflwyniad

Mae gennym rai adnoddau yma i'ch helpu i ddefnyddio Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (Fframwaith Sefydlu) ar gyfer Rheolwyr Gofal Cymdeithasol.

Mae gennym hefyd ystod eang o adnoddau y gall rheolwyr eu defnyddio i ddatblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau mewn perthynas ag arweinyddiaeth a rheolaeth mewn gofal cymdeithasol. Mae'r rhain i'w gweld ar ein tudalen adnoddau a chanllawiau ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr.

Efallai y bydd ‘Camau cyntaf mewn rheolaeth – adnodd ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol newydd’ yn ddefnyddiol i chi.

Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) hefyd adnoddau defnyddiol ar Arweinyddiaeth Dosturiol a all fod o ddiddordeb.

Enghreifftiau o logiau cynnydd wedi'u cwblhau

Rydym wedi cwblhau enghreifftiau o logiau cynnydd I chi gael gweld y math o dystiolaeth sy’n gallu cael ei ddefnyddio.

Crynodeb

  • Dylid defnyddio'r logiau cynnydd i nodi tystiolaeth y tynnwyd arni i gadarnhau cyflawni'r safon sefydlu e.e. cwblhau cymhwyster, goruchwyliaeth, cofnodion, arsylwi ymarfer neu dystiolaethau tyst.
  • Dylech gwblhau’r golofn ‘sut yr wyf wedi cyrraedd y safon hon’ gyda chrynodeb byr o’r gweithgareddau yr ydych wedi’u cyflawni.
  • Yna bydd angen i'r sawl sy'n llofnodi'r safon ychwanegu ei sylwadau a dylech ddyddio ac arwyddo.
  • Dylai eich rheolwr/unigolyn penodedig gwblhau'r nodiadau cryno gyda rhestr o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd. mae'r enghreifftiau hyn o logiau cynnydd wedi'u cwblhau yn dangos i chi sut y gellir cwblhau'r rhain.

Defnyddio'r Fframwaith Sefydlu i gofrestru

Ar gyfer rhai rheolwyr penodol, bydd cwblhau yn cael ei osod fel ‘gofyniad hyfforddi’ rhwng y pwynt cofrestru ac adnewyddu cofrestriad.

Mae angen cymwysterau gofynnol i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol; lle nad oes gennych un o’r rhain ond bod gennych ddewis arall sy’n bodloni meini prawf hanfodol y cytunwyd arnynt, gellir defnyddio cwblhau’r Fframwaith Sefydlu fel ‘ychwanegiad’ os ydych yn dymuno cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai:

  • am y tro cyntaf neu;
  • symud i ran arall o'r Gofrestr.

Os dymunwch ddefnyddio'r llwybr hwn i gofrestru, bydd angen i chi gyflwyno cais i'r tîm cofrestru. Os bydd y cais yn llwyddiannus, dylech gwblhau'r Fframwaith Sefydlu o fewn 12 mis cyntaf eich cofrestriad a rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn fel rhan o'ch adnewyddiad o gofrestriad.

Rydym wedi datblygu'r astudiaethau achos hyn i'ch helpu i ddeall sut y gellir defnyddio'r Fframwaith Sefydlu ar gyfer cofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol os nad oes gennych un o'r cymwysterau gofynnol.

Astudiaeth achos 1

Mae Siân eisiau cofrestru fel Rheolwr Gofal Preswyl Plant:

Dyfarnwyd cymhwyster Siân ar 16 Mehefin 2020 - Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc - Rheoli Preswyl i Oedolion (Lloegr) Cwblhaodd 88 credyd.

Mae Sian wedi rheoli gwasanaethau preswyl ar gyfer oedolion ifanc (18 – 25) ag anabledd dysgu/awtistiaeth – does dim profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ganddi.

Mae'r cyflogwr yn cynnig gwasanaethau i blant a phobl ifanc hefyd, gwnaeth Siân gais am swydd a'i derbyn yn yr un sefydliad fel rheolwr gwasanaeth seibiannau byr preswyl i blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu/awtistiaeth.

Byddem yn derbyn cymhwyster Sian ar gyfer cofrestru gyda gofyniad hyfforddi iddi gwblhau'r Fframwaith Sefydlu gan gynnwys adran 8 : ‘Arwain a rheoli darpariaeth gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc anabl' erbyn adeg adnewyddu ei chofrestriad (tair blynedd).

Astudiaeth achos 2

Mae June eisiau cofrestru fel rheolwr cartref gofal i oedolion:

Mae June wedi gweithio i'r awdurdod lleol ers 17 mlynedd, 12 o'r rhain fel gweithiwr cymorth i deuluoedd a 5 fel rheolwr gwasanaethau cymorth i deuluoedd. Yn ddiweddar, fe'i penodwyd yn rheolwr peripatetig ar gyfer gwasanaethau cartref gofal yn yr awdurdod lleol. Nid oes ganddi unrhyw brofiad o weithio gyda phobl hŷn.

Mae gan June y cymwysterau canlynol; mae wedi cwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a llyfrau gwaith hefyd fel ffordd o ddiweddaru ei gwybodaeth a’i dealltwriaeth.

  • NVQ Lefel 3 Gofalu am Blant a Phobl Ifanc - Gorffennaf 2006
  • NVQ Lefel 4 Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Plant a Phobl Ifanc – Ebrill 2008
  • Diploma NVQ Lefel 5 mewn Rheoli – Awst 2015
  • Diploma Lefel 5 ILM mewn Egwyddorion Arwain a Rheoli – Awst 2015
  • Prentisiaeth Uwch Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli – Tachwedd 2015.

Byddem yn derbyn cymwysterau cofrestru June gyda gofyniad hyfforddi iddi gwblhau'r Fframwaith Sefydlu (ar gyfer rheolwyr) gan gynnwys adran 11 'Arwain a rheoli darpariaeth gwasanaethau ar gyfer lleoliadau cartref gofal' erbyn adeg adnewyddu ei chofrestriad (tair blynedd).

Astudiaeth achos 3

Mae Megan eisiau cofrestru fel Rheolwr Gofal Preswyl Plant:

Mae gan Megan y cymwysterau canlynol:

  • Diploma NVQ Lefel 5 mewn Rheoli ac Arwain (2018)
  • NVQ Lefel 4 Arwain a Rheoli Gwasanaethau Gofal (Unedau B6 a B7 sef yr unedau penodol sydd eu hangen i gofrestru fel rheolwr gofal preswyl plant, nid yw'r rhain wedi'u cwblhau) (2012)
  • NVQ Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (oedolion) (2008).

Mae gan Megan yr hanes cyflogaeth canlynol – y cyfan yn gweithio gydag oedolion:

  • Hydref 2009 – Mehefin 2012 Cydgysylltydd gofal cartref
  • Mehefin 2012 – Hydref 2012 Rheolwr gwasanaeth gofal cartref
  • Tachwedd 2012 – Chwefror 2019 Rheolwr Cartref ar gyfer cartref preswyl i oedolion ag anableddau dysgu ac iechyd meddwl
  • O fis Chwefror 2019 – tan adeg derbyn y cais (Mawrth 2020) - Dirprwy reolwr cartref gofal i blant.

Byddem yn derbyn cymwysterau Megan gyda gofyniad hyfforddi iddi gwblhau'r Fframwaith Sefydlu gan gynnwys adran 7 'Arwain a rheoli darpariaeth gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal' erbyn adeg adnewyddu ei chofrestriad (tair blynedd).

Astudiaeth achos 4

Mae Alun eisiau cofrestru fel Rheolwr Gofal Preswyl Plant:

Cwblhaodd Alun ddiploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Plant a Phobl Ifanc) (Cymru a Gogledd Iwerddon) ym mis Hydref 2020 ond ni chwblhaodd yr uned 'Arwain a rheoli byw mewn grŵp i blant a phobl ifanc' y byddai ei angen iddo gyflawni'r llwybr Rheoli Preswyl Plant a Phobl Ifanc.

Roedd Alun yn gweithio fel dirprwy reolwr mewn cartref preswyl i blant a phobl ifanc wrth gwblhau'r cymhwyster.

Byddem yn derbyn cymhwyster Alun gyda gofyniad hyfforddi iddo gwblhau'r Fframwaith Sefydlu gan gynnwys adran 7 'Arwain a rheoli darpariaeth gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal' erbyn adeg adnewyddu ei gofrestriad (tair blynedd).

Astudiaeth achos 5

Mae Abdul eisiau cofrestru fel Rheolwr Gofal Cartref (gwasanaethau oedolion).

Mae gan Abdul y diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc (rheoli oedolion) (Lloegr) – 80 credyd. Cwblhaodd hyn ym mis Ebrill 2020.

Roedd Abdul yn gweithio fel rheolwr cofrestredig a rheolwr gweithrediadau cynorthwyol mewn asiantaeth gofal cartref yn Lloegr wrth gwblhau'r cymhwyster.

Byddem yn derbyn cymhwyster Abdul gyda gofyniad hyfforddi iddo gwblhau'r Fframwaith Sefydlu erbyn adeg adnewyddu ei gofrestriad (tair blynedd). Byddai hyn yn sicrhau bod Abdul yn gyfarwydd â'r holl ddeddfwriaeth Gymreig berthnasol ac yn gallu cymhwyso hyn yn ei ymarfer (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru), Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan, y Gymraeg ac ati).

Astudiaeth achos 6

Mae Jean eisiau cofrestru fel Rheolwr Gofal Cartref (gwasanaethau i oedolion)

Mae Jen yn meddu ar Ddiploma Lefel 5 mewn Arwain ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol (ymarfer uwch oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon - 80 credyd. Cwblhawyd mis Hydref 2020.

Roedd Jen yn gweithio fel arweinydd tîm mewn gwasanaeth cefnogi byw ar gyfer unigolion gydag anableddau dysgu pan gwblhaodd y cymhwyster. Mae hi wedi cael dyrchafiad i rôl rheolwr yn yr un sefydliad.

Byddem yn derbyn cymhwyster Jen gyda gofyniad hyfforddi i gwblhau’r Fframwaith Cymwysterau gan gynnwys Adran 14: ‘Arwain a rheoli cymorth i unigolion ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth’ erbyn adeg adnewyddu cofrestriad (tair blyne

​Gweithdai rheolwyr a chyflogwyr i gefnogi defnyddio'r Fframwaith Sefydlu ar gyfer Rheolwyr Gofal Cymdeithasol

Rydym wedi trefnu gweithdai i gefnogi defnyddio’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Rheolwyr Gofal Cymdeithasol.

Mae'r gweithdai hyn ar gyfer rheolwyr, cyflogwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am gefnogi rheolwyr newydd yn y swydd.

Bydd y gweithdy yn esbonio pam fod y fframwaith sefydlu wedi’i ddatblygu, beth mae’n cynnwys, pwy ddylai ei gwblhau a pham.

Bydd cyfle i archwilio cynnwys y fframwaith sefydlu yn bellach mewn ystafelloedd rhyngweithiol llai gyda rheolwyr a chyflogwyr.

Sylwch y bydd gweithdai i gyd yn ymdrin â'r un pwnc, nid oes angen i chi fynychu mwy nag un.

Fe fydd y gweithdai yn ymddangos yma pan ar gael

Mae hefyd fideos gan gyflogwyr yn sôn am ddefnyddio’r Fframwaith Sefydlu.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig