Pam rydym yn cofrestru
Rydym yn cadw cofrestr o bobl sydd wedi dangos eu bod yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol. Rhaid i bawb ar y Gofrestr ddangos eu bod;
- â chymwysterau priodol
- yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ymarfer
- bod â'r cymeriad a'r cymhwysedd
- dilyn y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol (y Cod) a chanllawiau ymarfer ar gyfer eu rôl
- yn bwriadu ymarfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
- yn ymarfer yn y maes y mae eu cais yn ymwneud â'u cais i gofrestru.
Sefydlwyd y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol (y Gofrestr) o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac mae’n cael ei chynnal o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu 2016.
Rydym yn defnyddio Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2020 i gynnal y Gofrestr. Cymeradwyir y rheolau hyn gan Lywodraeth Cymru, a rhain yw'r fframwaith ar gyfer cofrestru'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae'r rheolau hyn yn weithredol o 1 Ebrill 2020.

Mae rheolau 2018 yn berthnasol i geisiadau a wneir rhwng 1 Tachwedd 2018 a 31 Mawrth 2020 yn gynhwysol.

Mae Rheolau Cynnwys y Gofrestr 2020 yn nodi'r wybodaeth y mae angen i ni ei chynnwys yn ein Cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol. Maent yn weithredol o 1 Ebrill 2020.

Pwy sy’n gallu cofrestru
Mae’r Gofrestr yn agored i’r grwpiau gweithwyr canlynol:
- gweithwyr cymdeithasol
- myfyrwyr gradd gwaith cymdeithasol
- rheolwyr gofal preswyl i blant
- rheolwyr cartrefi gofal i oedolion
- rheolwyr gofal cartref
- gweithwyr gofal preswyl i blant
- gweithwyr gofal cartref (gorfodol o fis Ebrill 2020).
Mae’n rhaid i’r holl weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gofrestru ar ôl cwblhau eu cymhwyster neu ddechrau yn y swydd.
Mae’n rhaid i weithwyr gofal preswyl i blant a gweithwyr gofal cartref gofrestru o fewn chwe mis i ddechrau eu swydd.
Manteision cofrestru
Mae manteision bod yn berson cofrestredig yn cynnwys y canlynol:
Meithrin ymddiriedaeth a hyder
- gall pobl ddibynnu ar weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig
- mae gan bobl hyder o wybod eich bod yn dilyn y Cod
Gwerthfawrogi gweithwyr gofal cymdeithasol
- gallwch ddangos bod gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn weithiwr gofal cymdeithasol
- gallwch ddangos eich bod wedi cael hyfforddiant a’ch bod yn cymryd cyfrifoldeb am ddatblygu gwybodaeth a sgiliau
- gall cyflogwyr ddarparu’r cymorth a’r datblygiad sydd eu hangen arnoch
- trwy wybod mwy amdanoch bydd yn haws i ni gynllunio ffyrdd o’ch cynorthwyo.
Sicrhau bod pobl yn ddiogel
- amddiffyn hawliau pobl a sicrhau eu bod yn cael gwrandawiad
- cynorthwyo pobl i fod yn annibynnol ac i amddiffyn eu hunain
- os nad yw gweithiwr yn addas i ymarfer, gellir ei dynnu oddi ar y Gofrestr fel nad yw’n gallu ymarfer yng Nghymru.
Manteision eraill
- defnyddio teitl eich proffesiwn yn gyfreithlon
- cymorth a gwybodaeth o’n dogfennau canllawiau ymarfer a’n cyhoeddiadau eraill
- gwahoddiadau i ddigwyddiadau a chynadleddau
- gwahoddiadau i ymgynghoriadau.
Dyma ddau fideo astudiaeth achos sy'n dangos manteision bod yn weithiwr cofrestredig gyda ni.
Data ag adroddiadau cofrestru
Y nifer gyfredol o unigolion cofrestredig yw:
- 6,375 - gweithwyr cymdeithasol
- 706 - myfyrwyr gwaith cymdeithasol
- 1,296 - rheolwyr cartrefi gofal oedolion
- 881 - rheolwyr gofal cartref
- 245 - rheolwyr gofal preswyl i blant
- 1 - rheolwr canolfan preswyl I deuluoedd
- 1 - rheolwr gwasanaeth maethu
- 10,184 o weithwyr gofal cartref
- 2,936 o weithwyr gofal preswyl i blant
Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi adroddiadau data ar y wybodaeth a roddir i ni gan ymgeiswyr a phersonau cofrestredig.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn Cysylltwch â ni.