CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adnewyddu

Gwybodaeth am sut i adnewyddu’ch cofrestriad a’r gofynion datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL) y mae’n rhaid i chi eu bodloni. Hefyd, gwybodaeth ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu bodloni’r gofynion adnewyddu.

Pam mae angen i chi adnewyddu

Mae cofrestru am hyd at dair blynedd. Ar ôl hynny mae angen i chi adnewyddu ar-lein neu bydd eich cofrestriad yn dod i ben sy'n golygu y bydd eich enw yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr ac na fyddwch yn gallu ymarfer yn gyfreithlon yng Nghymru.

Trwy gael eich cofrestru rydych yn dangos eich bod yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol trwy:

  • fod â’r cymwysterau priodol
  • bod yn addas i ymarfer o safbwynt corfforol a meddyliol
  • bod â’r cymeriad a’r cymhwysedd cywir
  • cytuno i ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
  • cadarnhau eich bod yn bwriadu ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru yn ystod eich cyfnod cofrestru
  • cadarnhau y byddwch yn ymarfer yng Nghymru yn y math o waith y gwnaethoch gais i gofrestru ar ei gyfer
  • gorfod darparu tystiolaeth o DPP.

Sut i adnewyddu

Mae angen i chi adnewyddu’ch cofrestriad bob tair blynedd ar ôl dyddiad eich cofrestriad gwreiddiol. Bydd modd i chi gwblhau eich cais i adnewyddu’ch cofrestriad ar eich cyfrif GCCarlein 86 diwrnod cyn eich dyddiad adnewyddu.

Os yw’ch cais yn anghyflawn mae’n rhaid i chi ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ar goll cyn y gellir adnewyddu’ch cofrestriad.

Mae’n rhaid i chi gwblhau’ch cais o leiaf 21 diwrnod cyn eich dyddiad adnewyddu. Os nad yw’r broses adnewyddu wedi’i chwblhau 21 diwrnod cyn eich dyddiad adnewyddu, byddwn yn anfon nodyn atgoffa ‘hysbysiad o fwriad i ddileu’ch enw oddi ar y Gofrestr’ atoch chi a’ch cyflogwr diwethaf hysbys.

Ni allwn sicrhau y byddwn yn prosesu ceisiadau adnewyddu mewn llai na 21 diwrnod. Oni bai eich bod wedi adnewyddu, bydd eich cofrestriad yn dod i ben un diwrnod ar ôl eich dyddiad adnewyddu.

Er mwyn adnewyddu’ch cofrestriad bydd angen i chi:

  • fewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein
  • dewis ‘Adnewyddu Fy Nghofrestriad‘ a chlicio ar 'Adnewyddu'
  • bydd eich cyfrif yn dangos y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym amdanoch. Byddwch yn gallu newid y wybodaeth hon
  • cwblhau’r ffurflen a thalu’r ffi adnewyddu a nodir
  • cyflwyno tystiolaeth o DPP i gefnogi’ch cais.

Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

Mae’n rhaid i bob person cofrestredig (ac eithrio myfyrwyr gwaith cymdeithasol) gadw cofnod o’u DPP. Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’ch DPP fel rhan o’ch cais adnewyddu.

  • Rhaid i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gwblhau 90 awr o ddatblygiad proffesiynol ym mhob cyfnod cofrestru o dair blynedd.
  • Rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol yn cwblhau 45 awr o ddatblygiad proffesiynol ym mhob cyfnod cofrestru o dair blynedd.

Mae’n rhaid i chi drafod a chytuno ar eich hyfforddiant a’ch dysgu gyda’ch rheolwr cyn cyflwyno tystiolaeth i ni. Rydym yn argymell y dylech ddiweddaru’ch cofnodion DPP wrth i chi eu cwblhau, a gallwch wneud hyn trwy fewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein.

Bydd angen i chi gofnodi:

  • y dyddiad
  • teitl yr hyfforddiant neu’r dysgu
  • hyd yr hyfforddiant a’r dysgu
  • disgrifiad cryno o sut cyfrannodd yr hyfforddiant at eich datblygiad proffesiynol.

Darllenwch ein canllawiau ar datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

​Cymeradwyo’ch cais adnewyddu

Gweithwyr cymdeithasol

Ni fydd angen cymeradwyo cais adnewyddu’r rhan fwyaf o weithwyr cymdeithasol. Rydym yn dewis sampl o weithwyr cymdeithasol i wirio eu DPP.

Os ydych yn cael eich dewis:

  • byddwch yn cael eich hysbysu
  • bydd angen i chi roi copi o’ch DPP i’ch rheolwr llinell i’w wirio
  • bydd eich rheolwr yn cadarnhau’r copi trwy roi ei enw, ei lofnod a’r dyddiad arno
  • dylech sganio a lanlwytho’r copi trwy eich cyfrif GCCarlein.

Rheolwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol

Mae’n rhaid cymeradwyo cais adnewyddu a gwirio CPD pob gweithiwr gofal cymdeithasol.

Wrth gwblhau eich cais gofynnir i chi ddewis o restr o bobl gymeradwy (llofnodwyr) ar gyfer eich sefydliad.

Bydd y llofnodwr yn mewngofnodi i’w gyfrif GCCarlein, gweld y wybodaeth a chwblhau’r cwestiynau gofynnol. Bydd hyn yn cadarnhau ei fod wedi gweld eich DPP a’i fod yn cymeradwyo eich cais adnewyddu.

Cofiwch fod yn rhaid i’r sawl sy’n eich cymeradwyo fod yn unigolyn proffesiynol nad yw’n perthyn i chi ac nad oes ganddo/ganddi berthynas bersonol â chi.

Os ydych yn hunangyflogedig

Os ydych chi'n hunangyflogedig neu os oes busnes teuluol gennych, gallwch gyflwyno tystiolaeth DPP heb wiriad yn ogystal â phortffolio cryno.

Mae'n rhaid i hwn ddangos sut yr ydych wedi ateb y gofynion DPP. Dylai gynnwys tystiolaeth megis copïau o dystysgrifau presenoldeb a chrynodeb byr o ddeilliannau eich gweithgareddau dysgu.

Noder, ni fyddwn yn gallu dychwelyd eich portffolio.


Darllenwch ein tudalennau canllaw am wirio a chymeradwyo.

Methu bodloni gofynion adnewyddu

Gallwn wrthod eich cais i adnewyddu os nad ydych wedi cwblhau'r oriau gofynnol neu DPP.

  • Rhaid i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol gwblhau 90 awr o ddatblygiad proffesiynol ym mhob cyfnod cofrestru o dair blynedd.
  • Rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol yn cwblhau 45 awr o ddatblygiad proffesiynol ym mhob cyfnod cofrestru o dair blynedd.

Os yw’ch enw yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr ni fyddwch yn gallu gweithio mewn swydd sy’n gofyn am gofrestriad.

Mewn amgylchiadau eithriadol gallwch gyflwyno datganiad ysgrifenedig i’r Cofrestrydd yn egluro pam nad ydych wedi bodloni’r gofynion DPP. I gael rhagor o wybodaeth neu i gyflwyno’ch datganiad ysgrifenedig, dylech e-bostio registrants@gofalcymdeithasol.cymru.

Beth sy’n digwydd os nad ydych yn adnewyddu

Os nad ydych yn adnewyddu’ch cofrestriad, bydd eich enw yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr, sy’n golygu na fyddwch wedi’ch cofrestru’n gyfreithlon i ymarfer yng Nghymru.

Os ydych am ddychwelyd i’r Gofrestr ar ôl i’ch enw gael ei thynnu oddi arni, bydd angen i chi:

  • gwblhau cais newydd ar eich cyfrif GCCarlein
  • cyflwyno’ch cofnodion DPP
  • talu unrhyw ffioedd dyledus.

​Gwrthod adnewyddu cofrestriad

Os oes tystiolaeth sy'n cwestiynu addasrwydd unigolyn cofrestredig i weithio ym maes gofal cymdeithasol, gallwn ymchwilio'n bellach ir pryder.

Gallwn wrthod cofrestru a gallwn osod sancsiynau ar eu cofrestriad, gan gynnwys:

  • cyfyngiadau ar weithio
  • gofynion hyfforddi
  • profiad gwaith.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.