Mae gofal yn bwysig i bawb ac yn cyffwrdd pawb ohonom ar ryw adeg yn ein bywyd.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth yng Nghymru ar gyfer plant, oedolion a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae’n bwysig bod plant, pobl ifanc ac oedolion mewn cymunedau o Fôn i Fynwy yn gallu dibynnu ar ofal cymdeithasol a gofal plant o ansawdd uchel i’w helpu i fyw’r bywydau sy’n bwysig iddyn nhw.
Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, rydyn ni'n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd cenedlaethol ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. Rydyn ni'n arwain ar reoleiddio a datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Mae'r cynllun hwn yn egluro ein ffocws ar gyfer y pum mlynedd nesaf, sy'n debygol o weld newid cymdeithasol a gwleidyddol sylweddol. Mae'r dulliau o ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar, a sut y mae pobl yn eu defnyddio, yn debygol o fod yn wahanol hefyd.
Dydyn ni ddim yn diystyru'r heriau a ddaw yn sgil y newidiadau hyn, ond credwn fod gennym gyfleoedd sylweddol i gefnogi gwelliannau i bobl Cymru. Ni fyddwn yn gallu cyflawni'r newidiadau hyn ar ein pen ein hunain. Mae gweithio gydag eraill yn ganolog i'n ffordd o weithio, a bydd partneriaeth wrth wraidd sut y byddwn yn cyflawni'r blaenoriaethau hyn.
Hoffem barhau ein taith i ymgorffori diwylliant o gynnwys pobl a sefydliadau eraill ar draws ein gwaith. Byddwn yn parhau i ymateb i anghenion newidiol y sectorau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. Rydyn ni wedi ymrwymo i ymateb i farn ac anghenion oedolion a phlant sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, eu teuluoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y sector i lywio’n gwaith. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phobl sy'n dibynnu ar ofal a chymorth, gweithwyr gofal a gweithwyr proffesiynol yn y blynyddoedd cynnar i ddatblygu hyfforddiant priodol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth amrywiol dinasyddion ledled Cymru.
Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gydweithio, dysgu o arferion gorau a chroesawu 'ffrindiau beirniadol' o sectorau eraill. Bydd y pwyslais hwn ar bartneriaeth yn llywio'r holl waith sydd i'w gyflawni o dan y cynllun hwn.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi Rhaglen Lywodraethu 2021-2026, egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'n cyfrifoldebau fel sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y strategaeth hon yn adeiladu ar sylfeini Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr a'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i greu gweithlu brwdfrydig, iach, hyblyg, ymatebol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol sy'n adlewyrchu poblogaeth amrywiol Cymru, ei hunaniaeth ddiwylliannol a’r Gymraeg.
Bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar cryf yng Nghymru yn helpu i leihau effaith pobl yn byw mewn tlodi, esgeulustod, salwch, anabledd, neu wahaniaethu oherwydd hil neu nodweddion gwarchodedig eraill. Yn aml mae’r anfanteision hyn yn arwain at anghydraddoldebau iechyd a rhagolygon salach i blant o ran cyflawni eu potensial neu i oedolion allu byw bywyd llawn. Byddwn yn parhau i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar ynghyd â sut rydym yn gweithio ac ar draws ein Bwrdd a'n gweithlu wrth gyflawni'r amcanion yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.