CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ein aelodau Bwrdd
  • Mick Giannasi

    Cadeirydd y Bwrdd, ymddeolodd Mick Giannasi o wasanaeth yr heddlu ym mis Ebrill 2011, ar ôl gyrfa lwyddiannus o dros 31 mlynedd. Derbyniodd Fedal Heddlu’r Frenhines am ei gyfraniad i blismona yn 2011. Ar ôl ymddeol o Wasanaeth yr Heddlu yn 2011, penodwyd Mick gan Lywodraeth Cymru i weithredu fel Comisiynydd ar gyfer Cyngor Ynys Môn. O fis Medi 2013 hyd fis Ebrill 2018, Mick oedd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cafodd ei anrhydeddu â CBE yn 2018 fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

  • Abigail Harris

    Mae Abigail wedi gweithio mewn swyddi arweinyddiaeth uwch yn y GIG, mewn llywodraeth leol ac yn Llywodraeth Cymru am fwy nag 20 mlynedd. Mae hynny’n cynnwys pedair blynedd yn gyfarwyddwr statudol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chwe blynedd yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg. Roedd nifer o’r swyddi y bu’n ei gwneud yn golygu cyflymu’r broses o integreiddio gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae ganddi radd meistr mewn Gofal Integredig.

  • Carl Cooper

    Mae Carl wedi bod yn gweithio yn y Sector Gwirfoddol drwy gydol ei yrfa waith. Bu’n gweithio i’r Eglwys yng Nghymru am 25 mlynedd, ac mae wedi gwneud swyddi rheoli ac arweinyddiaeth uwch ers 1999. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn aelod o Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg. Dechreuodd ar ei swydd fel Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys ym mis Gorffennaf 2008. Mae’n aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys ac yn Is-gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys.

  • Damian Bridgeman

    Roedd Damian yn aelod o fwrdd Cyngor Gofal Cymru ac mae ganddo brofiad o waith cyfathrebu ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar wasanaethau cadair olwynion ac adsefydlu yng Nghymru ac yn Nottingham. Mae hefyd wedi gweithio gyda phob un o’r pedwar prif goleg brenhinol. Mae wedi darlithio ar faterion yn ymwneud ag anabledd a gofal ar y llwyfan rhyngwladol, ac wedi cwblhau astudiaethau pellach mewn iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i ehangu ei wybodaeth a’i brofiad ym maes gofal, addysg a’r gymuned. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau marchogaeth ac abseilio. Bu Damian hefyd yn nofio ar lefel sir i Glwb Anabledd Cymru Caerdydd.

  • Donna Hutton

    Mae Donna wedi bod yn gyfrifol am y sector gofal cymdeithasol yn UNISON ers wyth mlynedd ac mae’n gweithio gyda’r sector iechyd ar hyn o bryd. Yn y Gogledd y mae’n byw ond mae ei swydd wedi’i lleoli yn Abertawe. Mae hi wedi bod yn ynad heddwch ac yn arweinydd y Brownies.

  • Emma Britton

    Mae Emma Britton yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig sy’n gweithio ym maes maethu a mabwysiadu. Mae hi hefyd yn cynorthwyo oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth pan oeddent yn blant ac yn tiwtora pobl ifanc ar ran asiantaeth yn y sector gwirfoddol. Yn ogystal â’i phrofiad proffesiynol, mae gan Emma brofiad personol o fod yn ddefnyddiwr gwasanaethau gofal cymdeithasol.

  • Grace Quantock

    Mae Grace Quantock yn aelod bwrdd ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae'n eistedd ar fyrddau Gofal Cymdeithasol Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Dyffryn Gwy. Mae hi'n ymchwilydd a chynghorydd mewn practis preifat gydag MA mewn seicotherapi a chyflwyno digidol. Mae Grace wedi ymgymryd â dwy gymrodoriaeth ymchwil i gyflenwi gwasanaethau digidol ac wedi gwneud ymchwil gyda’r BBC a Phrifysgol Caerdydd ar gyflenwi data wedi’i lywio gan drawma. Cyfrannodd at Adolygiad Holmes ar gynhwysiant mewn bywyd cyhoeddus yn 2019 ac mae wedi derbyn gwobr Arweinydd Ifanc y Dyfodol Cymru Fairwood.

  • Helen Mary Jones

    Mae gan Helen Mary Jones 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys fel Aelod o’r Senedd, lle bu’n gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a’r Pwyllgor Diwylliant. Bu’n Gadeirydd Grwpiau Trawsbleidiol ar Blant a Phobl Ifanc, Plant sy’n Derbyn Gofal, a Hawliau Dynol. Gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi.

    Y tu allan i wleidyddiaeth mae wedi dal rolau sylweddol, gan gynnwys prif weithredwr elusen gwaith ieuenctid genedlaethol a Dirprwy Gyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal. Fe’i penodwyd i’r Bwrdd Ymyrraeth Gweinidogol a anfonwyd i Gyngor Sir Penfro yn dilyn cyfres o fethiannau diogelu. Mae hi wedi cyflwyno ar bolisi cyhoeddus ym Mhrifysgolion Harvard, Huston ac Austin. Ym mis Medi 2021 cafodd ei hethol i Fwrdd Plant yng Nghymru, y corff ymbarél ar gyfer sefydliadau plant. Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel ymgynghorydd polisi a materion cyhoeddus.

  • Joanne Kember

    Fferyllydd yw Joanne ac mae’n byw yng Ngogledd Cymru ers 20 mlynedd. Fel fferyllydd cymunedol, mae hi wedi bod yn flaenllaw yn hybu iechyd a llesiant pobl yr ardal. Mae hi wedi bod yn weithgar gyda’r trydydd sector, yn enwedig mudiadau gofalwyr, ac mae’n eiriolwr dan y cynllun Ffrindiau Dementia.

  • Jane Moore

    Mae gan Jane 40 mlynedd o weithio yn Adrannau Gwasanaethau Plant llywodraeth leol. Mae hi wedi rheoli’r rhan fwyaf o agweddau ar Wasanaethau Plant, a hynny ar lefel uwch-reolwr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi arbenigo mewn darpariaeth gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal. Ers mis Ebrill 2013, mae Jane wedi bod yn gweithio’n annibynnol. Cafodd ei chomisiynu i weithio ar brosiectau mawr, er enghraifft fel Rheolwr Prosiect i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac fel Rheolwr Prosiect i’r Fframwaith Mabwysiadu Cenedlaethol.

  • Maria Battle

    Maria Battle yw Cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda a chyn Gyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am 8 mlynedd.

    Mae Maria yn Gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus a hawliau dynol. Arferai fod yn Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru, sef corff gwarchod statudol hawliau defnyddwyr. Cyn hyn, roedd Maria yn Ddirprwy Gomisiynydd Plant Cymru yn hyrwyddo hawliau plant ym meysydd iechyd, addysg, amddiffyn plant a lloches yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Bu’n Gyfarwyddwr Age Concern Ceredigion yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn. Mae wedi darlithio yn y gyfraith ym Mhrifysgolion Morgannwg a Birmingham.

  • Peter Max

    Yn wreiddiol, roedd Peter yn gyfrifydd siartredig yn canolbwyntio ar wasanaethau cyhoeddus ac elusennau. Wedi iddo fod yn Unigolyn Cyfrifol grŵp cartrefi gofal yng Nghymru am 15 mlynedd, mae ganddo brofiad uniongyrchol o sefydlu a darparu gwasanaethau rheoledig. Mae Peter yn cadeirio Pwyllgor Gwella Gofal Cymdeithasol Cymru.

    Mae profiad anweithredol Peter yn cynnwys rolau yn y trydydd sector ac o fewn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Gwasanaethodd Peter ar fwrdd cymdeithas dai am naw mlynedd ac roedd yn Aelod Annibynnol ar Grŵp Cyflenwi Cenedlaethol y GIG am wyth mlynedd ac ar y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol dros Iechyd Meddwl am bedair blynedd. Mae Peter yn aelod o fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac mae'n cadeirio eu Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.

  • Simon Burch

    Mae Simon wedi cael gyrfa hir yn y sector cyhoeddus, a hynny’n fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Fynwy. Yn ogystal â gwneud swyddi rheng flaen fel athro a gweithiwr cymdeithasol, mae wedi treulio sawl blwyddyn yn gweithio ar ddatblygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd integredig sy’n rhoi lle canolog i’r unigolyn. Mae’n aelod o’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ac yn credu bod amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn ganolog i’r gwaith gwella a rheoleiddio a wneir gan Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru.

  • Trystan Pritchard

    Mae gan Trystan Pritchard brofiad ledled y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n Brif Weithredwr Hosbis Dewi Sant yn Llandudno, ac yn y gorffennol mae wedi bod mewn rolau uwch yn y GIG a Llywodraeth Leol. Mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd a rheoli strategol.

    Treuliodd Trystan flynyddoedd fel Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer Bwrdd Iechyd gyda chyfrifoldeb am gyfathrebu strategol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwasanaethau ar-lein. Yn newyddiadurwr cymwys, mae Trystan wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Cyngor ar Bopeth Cymru. Mae’n siaradwr Cymraeg rhugl ac mae ei ddiddordebau’n cynnwys mynydda, rygbi Cymru a threulio amser gyda’i deulu ifanc.