CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pobl â dementia

Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys cyngor ac adnoddau i bobl sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Nid yw dementia yn rhan naturiol o fynd yn hŷn a dim ond gweithiwr iechyd proffesiynol y gellir ei ddiagnosio.

I ddarganfod mwy am gael diagnosis o ddementia, ewch i'r Gymdeithas Alzheimer (tudalen gwybodaeth ar gael yn Saesneg yn unig).

Cyflwyniad i bobl â dementia

Mae yna rhai ardaloedd rydym yn gwybod sydd angen eu gwella mewn gofal cymdeithasol ar gyfer pobl sy'n byw â dementia.

Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siwr fod pobl yn gallu ffeindio'r gofal a'r cymorth sydd angen mewn cymdeithasau gwledig, ac yn defnyddio'r Gymraeg lle hon ydy'r iaith gyntaf.

Un mewn Miliwn: Adnodd Hyfforddiant Dementia

Sesiwn hyfforddiant ddwy awr a hanner, sy’n digwydd mewn dosbarth i helpu’r rhai sy’n gweithio gyda phobl â dementia.

Bydd y sesiwn yn rhoi dealltwriaeth well o ddementia a’i ffurfiau i’ch staff ac yn eich helpu i gyflawni amcanion Fframwaith dysgu a datblygu dementia Gwaith Da.

Bydd staff hefyd yn dysgu cyngor ymarferol am wella profiad dydd i ddydd pobl gyda dementia. Mae’r pecyn yn cynnwys nodiadau canllaw a fideo i gefnogi’r hwylusydd.

Archebwch eich copi gan dementia@gofalcymdeithasol.cymru

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am farn staff mewn cartref gofal am y pecyn hyfforddiant:

Adnoddau hyfforddi ailalluogi dementia

Mae'r pecyn adnoddau hwn wedi'i anelu at y rheini sy'n gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia yn eu cartrefi eu hunain.

Gallai hyn fod yn weithwyr gofal cartref, cynorthwywyr gofal iechyd neu weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, fel therapyddion galwedigaethol. Gellir eu defnyddio'n unigol neu fel hyfforddiant.

Gellir cwblhau'r adnoddau yn eu cyfanrwydd neu gallwch ddewis eu cwblhau fesul adran.

Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i gyrraedd lefel fedrus y Fframwaith Dysgu a Datblygu Gwaith Da.

Mae'r fideo uchod yn esbonio mwy am yr adnoddau. I ofyn am gopi am ddim, e-bostiwch dementia@gofalcymdeithasol.cymru

Os yw’r adnoddau hyn at ddefnydd personol, ysgrifennwch “adnoddau dysgwyr” yn llinell pwnc yr e-bost.

Os ydych yn bwriadu defnyddio’r adnoddau i gefnogi dysgwyr eraill, ysgrifennwch “adnoddau hwyluswyr” yn llinell pwnc yr e-bost.

Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol

Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol

Adnodd sy'n cefnogi ymarfer da mewn gofal dementia drwy roi mynediad at wybodaeth hanfodol, astudiaethau achos, data, ac ymchwil.

Pecyn gweithredu dysgu a datblygu ar gyfer gofal a chymorth dementia

Canllaw syml, ymarferol y gall sefydliadau a phartneriaethau ei ddefnyddio i roi’r Fframwaith Gwaith Da ar waith.

Adnoddau defnyddiol eraill ar gyfer gofal dementia

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd wedi datblygu fframwaith dysgu a datblygu ar gyfer gofal a chymorth dementia mewn partneriaeth â GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Rydym yn adeiladu ar y gwaith yma i wella gofal cymdeithasol i bobl sy'n byw gyda dementia. Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau partneriaid i wneud yn siwr bod ein gwaith yn alinio gyda gwaith cenedlaethol ar draws Cymru:

Fframwaith Gwaith Da: gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia ac wedi colli eu clyw neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain

Cyngor a chanlyniadau dysgu ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia ac wedi colli eu clyw neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.