CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Deddf Galluedd Meddyliol a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS)

Yr hyn rydych angen deall am y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) a beth maen nhw'n ei olygu i chi.

Beth yw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol?

Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (DGM) wedi bod mewn grym ers 2007 ac mae’n berthnasol i Gymru a Lloegr.

Prif bwrpas y ddeddf yw hyrwyddo a diogelu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn fframwaith cyfreithiol. Mae’n gwneud hyn mewn dwy ffordd:

  • drwy rymuso pobl i wneud penderfyniadau drostyn nhw’u hunain pryd bynnag y mae hyn yn bosibl, a diogelu pobl sy’n ddiffygiol o ran galluedd drwy ddarparu fframwaith hyblyg sy’n gosod unigolion wrth wraidd y broses o wneud penderfyniad
  • drwy ganiatáu i bobl gynllunio ar gyfer dyfodol pan allen nhw fod yn ddiffygiol o ran galluedd.

Mae’n diogelu pum egwyddor gyfreithiol:

1. Cymerwch yn ganiataol bod gan berson alluedd oni bai y profir fel arall

2. Peidiwch â thrin pobl fel pe baent yn methu gwneud penderfyniad oni bai bod pob cam ymarferol wedi ei gymryd i geisio eu helpu

3. Ni ddylid trin person fel pe bai’n methu gwneud penderfyniad oherwydd bod eu penderfyniad yn ymddangos yn annoeth

4. Dylech wneud pethau neu benderfyniadau dros bobl heb alluedd mewn ffordd sydd o fudd iddynt bob amser

5. Cyn gwneud rhywbeth i berson neu wneud penderfyniad ar eu rhan, ystyriwch a allech chi ddod i’r un canlyniad mewn ffordd sy’n llai cyfyngedig

Beth mae capasiti meddyliol yn ei feddwl?

Dychmygwch fod ymgynghorydd meddygol wedi eich cynghori i gael llawdriniaeth i osod penglin cyfan newydd.

  • Oes rhaid ei gael?
  • Os nac oes, pam ddim?

Yr ateb yw nac oes, sdim rhaid cael y llawdriniaeth os oes gennych y capasiti i wneud y penderfyniad.

Er mwyn arddangos ein galluedd meddyliol rhaid i ni:

  • ddeall gwybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad
  • cadw’r wybodaeth honno am yr holl amser sydd ei angen i wneud y penderfyniad hwnnw
  • pwyso a mesur y wybodaeth honno
  • cyfathrebu’r penderfyniad.

Felly, pe taech chi’n egluro eich rhesymau am ymwrthod â’r llawdriniaeth wrth y meddyg, gan ddangos eich bod wedi deall ei gyngor ac wedi defnyddio’r wybodaeth honno i wneud eich penderfyniad, dyw'r meddyg ddim yn gallu eich gorfodi i’w chael.

Pan fydd amheuaeth ynglŷn â galluedd rhywun i wneud ei benderfyniadau ei hun, er enghraifft ynglŷn â beth i’w wisgo, neu ble i fyw, fe allai’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) fod yn berthnasol.

Penderfyniad er budd y person

Dylid gwneud penderfyniadau ar ran person nad oes ganddo alluedd mewn ffordd sydd o fudd iddo, gan ystyried dymuniadau, credoau hysbys y person a’i les cyffredinol.

Er mwyn penderfynu beth sydd o fudd i berson sy’n ddiffygiol o ran galluedd, ystyriwch:

  • ei alluedd tebygol yn y dyfodol
  • ei ddymuniadau a theimladau yn y gorffennol a’r presennol
  • y credoau a’r gwerthoedd sy’n debygol o ddylanwadu ar ei benderfyniad
  • ffactorau eraill y byddai’r person yn debygol o’u hystyried.

Mae cyfarfodydd er budd person yn dod â phobl ynghyd i wneud penderfyniadau anodd.

Efallai y cewch eich gwahodd i gyfarfodydd budd er mwyn helpu gyda’r broses o wneud penderfyniad.

Mae’n hanfodol cofio nad yw galluedd yn benderfyniad unigol ond yn benderfyniad penodol.

Er enghraifft, efallai bod person yn gallu gwneud dewisiadau am eu gweithgareddau o ddydd i ddydd ond yn ddiffygiol o ran galluedd mewn meysydd ariannol.

Mae capasiti hefyd yn amser-benodol. Gall pobl fod â gallu anwadal sy’n golygu gallent fod yn analluog ar hyn o bryd, ond efallai na fyddant yn y dyfodol.

Mae ymgysylltu’r person yn y broses o wneud penderfyniadau, gwrando arno ac ystyried ei farn, dymuniadau a theimladau yn ganolog wrth wneud asesiad er budd.

Mae’n bwysig bod rhywun yn bresennol sy’n gallu cynrychioli buddiannau’r unigolyn hwnnw.

Gallai fod yn eiriolwr, neu aelod o’r teulu y gellir ymddiried ynddo ac sy’n gallu mynegi barn yr unigolyn ac nid eu barn nhw am yr hyn sydd orau.

Rhaid i chi fod yn gyfarwydd â’r DdGM a dylech gael mynediad i hyfforddiant priodol.

Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS)

Mae adegau lle gall rhyddid person fod yn gyfyngedig er mwyn ei rwystro rhag cael niwed.

Er enghraifft, efallai y byddwn yn rhwystro rhywun rhag gadael cartref gofal drwy gloi’r drws ffrynt, rhag ofn iddo gael ei anafu ar ffordd brysur.

Mae’r DdGM yn ein caniatáu ni i wneud hyn gan ystyried budd y person, ond rhaid i ni gael ein hawdurdodi i’w wneud.

Mae Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLs) yn ddiwygiad i’r DdGM, ac yn drefniadau sy’n amddiffyn person, nad oes ganddo’r galluedd i roi caniatâd o ran gofal a thriniaeth, er mwyn ei gadw’n ddiogel rhag niwed.

Efallai y bydd y Llys Diogelu’n awdurdodi amddifadu person o’i ryddid yn ei gartref ei hun, cartref gofal neu ysbyty.