CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
5. Gwerthuso effaith

Mae’n bwysig asesu effaith dysgu a datblygu am fod hynny’n sicrhau bod pethau’n gweithio fel y dylent a bod proses barhaus o hunanystyried a gwella parhaus.

Wrth asesu effaith, dylech fod yn glir ynghylch beth sy’n gweithio’n dda ar gyfer y ‘system gyfan’ o ofal a chymorth. Profiadau pobl â dementia a’u teuluoedd yw’r prif fesur oherwydd:

  • mae pobl sydd â dementia a’u teuluoedd yn gallu dod i gysylltiad â nifer o wasanaethau ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol yr un pryd
  • os bydd yr unigolyn sydd â dementia yn cael un cysylltiad negyddol â gwasanaeth sy’n effeithio ar ei lesiant, gall hynny ddileu nifer o’r buddion o’r gwaith rhagorol a wnaed gan wasanaethau eraill.

Beth sy’n gweithio’n dda

Mae anawsterau’n codi wrth werthuso’r effaith o ddysgu a datblygu mewn gofal dementia ar lesiant pobl sydd â dementia am fod nifer o wahanol bethau yn gallu effeithio ar lesiant.

Peidiwch ag anelu at berffeithrwydd. Yn hytrach, datblygwch ddulliau gwerthuso sy’n ddigon da yn eich golwg chi a’ch partneriaid. Casglwch wybodaeth o fwy nag un ffynhonnell am fod tystiolaeth yn fwy dilys os yw wedi’i seilio ar wybodaeth o nifer o ffynonellau.

Mae asesiad effaith da:

  • yn mesur yr effaith ar draws system gofal ranbarthol, yn ogystal â’ch sefydliad eich hun. Dylech ganolbwyntio ar ganlyniadau llesiant a phrofiad pobl o ofal. Lle da i ddechrau yw datblygu datganiadau llesiant ac asesu newidiadau yn agweddau meddwl staff
  • yn ystyried anghenion amrywiol y boblogaeth sydd â dementia
  • yn rhoi sylw i ffactorau allanol eraill a allai effeithio ar y canlyniadau llesiant a’r profiad o ofal sy’n cael ei adolygu. Er enghraifft, newidiadau o ran ariannu, newidiadau mewn staffio a newidiadau mewn pecynnau gofal
  • yn canolbwyntio ar farn pobl sydd â dementia, eu teuluoedd a’r bobl sy’n eu hadnabod orau, ac yn myfyrio ar beth sy’n gweithio’n dda a hefyd beth sydd angen ei wella
  • yn trefnu bod pobl sy’n fedrus wrth gyfathrebu â phobl sydd â dementia a’u teuluoedd yn gofyn am adborth ganddynt
  • yn mesur newid dros amser, gan gofnodi agweddau a phrofiadau pobl ar wahanol gamau ar y llwybr gofal dementia.

Os bydd asesiadau effaith yn cael eu gwneud yn dda, byddant yn cymell staff i wneud eu gorau. Byddant:

  • yn canolbwyntio ar beth sy’n gweithio a beth ellid ei wella, ac maent yn canmol llwyddiant
  • yn nodi problemau o ran diogelwch a llesiant, ac yn eu datrys drwy fod yn onest ac agored yn hytrach na beio neu godi teimlad o ofn methiant.

Mae nifer o ffyrdd i gynnwys pobl. Er bod lle i holiaduron ac arolygon, cafwyd tystiolaeth gynyddol am y manteision o ddefnyddio storïau naratif mewn gwerthusiadau.

Casglwch wybodaeth o nifer o wahanol ffynonellau a pharchwch farn a storïau pawb sy’n cymryd rhan, yn cynnwys pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Dylech ddatblygu dull o fesur effaith y gellir ei gysylltu â Ffrwd Waith 5b yn y safonau gofal dementia (mesur).

Pam ei bod yn bwysig mesur effaith

Roedd Elvish et al (2014 a 2018) wedi mesur y cam cyntaf a’r ail gam wrth gyflwyno hyfforddiant mewn gofal dementia ar gyfer staff ysbytai cyffredinol yn Lloegr.

Roedd yr awduron wedi defnyddio dwy raddfa i fesur hyder staff (graddfa CODE) a gwybodaeth staff (graddfa KIDE) wrth iddynt weithio i gynorthwyo pobl sydd ag anableddau dysgu.

Y nod oedd mesur newidiadau yn hyder, gwybodaeth a dulliau staff o ran ymdrin ag ymddygiadau sy’n herio, ar ôl derbyn hyfforddiant ‘Getting to Know Me’.

Roedd y canfyddiadau’n dangos bod yr hyfforddiant hwn wedi gwella:

  • gwybodaeth a hyder staff wrth gynorthwyo pobl sydd â dementia
  • y defnydd gan staff o ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae’r canfyddiadau’n dangos pa mor bwysig yw gwerthuso effaith hyfforddiant staff ar y canlyniadau i bobl sy’n byw gyda dementia.

Adnoddau defnyddiol

  • Caerdydd a Bro Morgannwg: Dogfen gwerthuso ac adborth hyfforddiant. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.

  • Ymarfer Tosturiol (2021) Mae Compassionate Circles yn daflen ganllaw 60 munud ar gyfer hwyluswyr a gwesteiwyr. Mae Taking Care Giving Care Rounds in ABUHB yn ganllaw ar gyfer sefydlu cylchoedd tosturiol. Gall y ddwy ddogfen hyn fod o gymorth i gyflwyno’r dull hwn yn lleol. Mae’r adnoddau yma ar gael yn Saesneg yn unig.

  • Experience Based Co-design (Bates a Roberts 2007, Kings Fund). Mae’r canllaw hwn yn egluro sut i gasglu storïau pobl mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac uchafbwyntiau ac isafbwyntiau eu profiadau o ofal a chymorth. Wedyn caiff y storïau eu rhannu â staff mewn trafodaethau grŵp, a all fod yn fan cychwyn i wella gwasanaethau. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.

  • Mae Magic Moments (Andrews et al 2015) yn astudiaeth achos o arferion da sy’n dangos sut mae gwaith ar ddweud storïau mewn cartrefi gofal yng Nghymru wedi bod yn ffordd i gydnabod a datblygu gofal o ansawdd da. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.

  • Ffilmiau PocketMedic ac erthygl yn Lancet Neurology am y gyfres ffilmiau dementia hon. Cynhaliwyd gwerthusiad o’r ffilmiau PocketMedic gan y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (AWTiC, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) a’r rhain yw’r peth agosaf i’r cyfleoedd i ddysgu drwy brofiad go iawn y dangoswyd eu bod yn fwyaf effeithiol. Mae’r adnoddau yma ar gael yn Saesneg yn unig.

  • Ffrwd waith mesur y llwybr safonau gofal dementia. Mae’r adnodd yma ar gael yn Saesneg yn unig.