CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cwestiynau cyffredin

Mae'r cwestiynau a'r atebion hyn yn darparu gwybodaeth ychwanegol ar ddefnyddio'r Fframwaith Sefydlu.

Faint o adrannau penodol i wasanaeth ddylwn i eu cwblhau?

Dylech ddewis yr adrannau penodol i wasanaeth sy’n adlewyrchu’ch rôl, gallai hyn fod yn 1 neu fwy.

Os nad oes gennyf un o’r cymwysterau gofynnol i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol, beth yw’r meini prawf hanfodol ar gyfer defnyddio fy nghymhwyster i gofrestru gyda’r Fframwaith Sefydlu?

Y meini prawf hanfodol ar gyfer cymwysterau amgen yw:

  • o leiaf 80 credyd ar lefel 4 NVQ / lefel 5 FfCCh /FfCRh
  • roedd y rheolwr (yr ymgeisydd sydd eisiau cofrestru) wedi’i gyflogi mewn rôl berthnasol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wrth wneud y cymhwyster
  • arsylwyd ar ymarfer yn y gweithle i gyflawni’r cymhwyster
  • roedd yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Gofynnol perthnasol.

Os ydw i’n cofrestru gyda chymhwyster amgen, faint o amser sydd gennyf i gwblhau’r Fframwaith Sefydlu?

Os ydych am ddefnyddio’r llwybr hwn i gofrestru bydd angen i chi gyflwyno cais i’r tîm cofrestru. Os yw’r cais yn llwyddiannus, bydd angen i chi gwblhau’r Fframwaith Sefydlu o fewn 3 blynedd i’ch dyddiad cofrestru cyntaf.

Os ydych chi’n symud i ran wahanol o’r Gofrestr a bod gennych dros 12 mis o’ch cyfnod cofrestru cyfredol ar ôl, bydd angen i chi gwblhau’r Fframwaith Sefydlu cyn adnewyddu’ch cofrestriad. Os oes gennych lai na 12 mis o’ch cyfnod cofrestru cyfredol ar ôl, byddwch yn cael amser ychwanegol i’w gwblhau.

Byddwn yn pennu ‘gofyniad hyfforddi’ os ydych chi’n defnyddio’r llwybr hwn a fydd yn nodi pa mor hir sydd gennych i gwblhau’r Fframwaith Sefydlu.

Beth os nad ydw i’n cwblhau’r fframwaith sefydlu cyn dyddiad adnewyddu fy nghofrestriad?

Dim ond os ydym wedi nodi hynny fel gofyniad hyfforddi y bydd angen i chi ei gwblhau cyn adnewyddu’ch cofrestriad. Os nad ydych wedi gallu ei gwblhau o fewn y cyfnod byddwn yn ymchwilio ac yn cynnal cynhadledd achos. Os oes yna amgylchiadau esgusodol efallai y cewch fwy o amser i’w gwblhau, os nad oes yna amgylchiadau esgusodol bydd eich cofrestriad yn dod i ben, a byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y Gofrestr.

Sut cafodd yr amserlenni ar gyfer cwblhau’r Fframwaith Sefydlu eu pennu?

Rydym yn credu y dylai pob rheolwr newydd allu cwblhau’r Fframwaith Sefydlu o fewn 12 mis.

Fodd bynnag, gall rhai cyflogwyr bennu cyfnod byrrach ar gyfer cwblhau i gyd-fynd â chyfnodau prawf a chontractau cyflogaeth.

Beth yw’r cymwysterau gofynnol?

Caiff cymwysterau gofynnol eu pennu ar gyfer pob grŵp o weithwyr sydd angen cofrestru fel gweithwyr proffesiynol gyda ni. Gallwch weld y cymwysterau cyfredol a hŷn a dderbynnir ar gyfer ymarfer ar gyfer ystod eang o rolau ar ein Fframwaith Cymwysterau.

Rwy’n cwblhau fy nghymhwyster lefel 5 yr un pryd â’r Fframwaith Sefydlu hwn, sut maen nhw’n cysylltu?

Bydd cwblhau’r Fframwaith Sefydlu yn eich helpu i ymgyfarwyddo â chynnwys y cymhwyster a’ch paratoi chi ar gyfer yr asesiad ffurfiol y byddwch chi’n ei gwblhau i gyflawni’r cymhwyster. Dylai hyn gefnogi’ch dysgu yn hytrach na’i ddyblygu.

Efallai y byddwch chi’n gallu defnyddio’ch logiau cynnydd yn eich portffolios tystiolaeth ar gyfer eich cymhwyster, bydd eich asesydd yn rhoi cyngor i chi ar hyn.

Sut mae cwblhau’r logiau cynnydd?

Mae’r logiau cynnydd yn cwmpasu holl adrannau’r fframwaith. Dylid eu defnyddio i nodi tystiolaeth a ddefnyddiwyd i gadarnhau cyflawni safon y fframwaith sefydlu e.e. cwblhau cymhwyster, goruchwyliaeth, cofnodion, arsylwi ar ymarfer neu dystiolaeth tystion. Dylech gwblhau’r golofn ‘sut rwyf wedi bodloni’r safon hon’ gyda chrynodeb byr o’r gweithgareddau a wnaethoch. Bydd angen i’r person sy’n llofnodi’r safon ychwanegu ei sylwadau a dylech chi a’r person ddyddio a llofnodi’r cofnod.

Dylai’ch rheolwr / person penodedig gwblhau’r nodiadau cryno gyda rhestr o’r dystiolaeth a ddefnyddiwyd. Mae gennym rai logiau cynnydd enghreifftiol y gallwch edrych arnynt i weld sut y gellir cwblhau'r rhain.

A ellir ystyried y Fframwaith Sefydlu fel ‘pasbort’ pe bawn i’n newid swydd?

Gall rheolwyr sy’n newydd i sefydliad ond sy’n gallu dangos tystiolaeth eu bod wedi cwblhau’r Fframwaith Sefydlu, ddefnyddio eu tystiolaeth fel ‘pasbort’.

Fodd bynnag, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu bodloni’r safonau yn eich rôl newydd, bydd eich cyflogwr am sicrhau eich bod chi’n cymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu i’ch ymarfer. Bydd angen i chi fapio’r safonau i’ch rôl newydd a nodi unrhyw fylchau sydd angen eu cau.

Bydd eich cyflogwr am sôn am bolisïau a gweithdrefnau eich gweithle a’ch rôl hefyd.

Rwy’n symud o un wasanaeth i un arall (e.e o oedolion i blant a phobl ifanc / plant a phobl ifanc i oedolion), beth yw’r ffordd orau o gwblhau sefydliad?

Fe fydd eich cyflogwr newydd yn gallu eich helpu drwy’r broses, ond efallai fydd yn syniad dechrau gyda’r adrannau gwasanaeth-benodol rydych chi wedi symud i mewn iddo cyn cwblhau’r adrannau generig. Fe fydd hyn yn gwneud yn siwr eich bod yn gyfarwydd gyda’r math o wasanaeth a hefyd yn meddu ar y wybodaeth a’r hyder i weithredu’r rôl.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig