CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Siaradwyr gwadd ac aelodau’r panel sy’n cymryd rhan yn y gynhadledd

Darllenwch mwy am y siaradwyr gwadd ac aelodau’r panel sy’n cymryd rhan yn y gynhadledd.

Julie Morgan, AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cafodd Julie Morgan ei geni yng Nghaerdydd a’i haddysgu yn Ysgol Gynradd Dinas Powys, Ysgol Howell’s, King’s College Llundain, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Caerdydd. Bu’n weithiwr cymdeithasol ac yn rheolwr yng Nghynghorau De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg, cyn cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol gyda Barnardos. Bu’n Gynghorydd ar Gyngor Sir De Morgannwg nes iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd ym 1997.

Yn ystod ei hamser yn San Steffan, cyflwynodd Julie dri Bil Preifat gan Aelod – un yn gwahardd smygu mewn mannau cyhoeddus, un yn rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 oed, ac un ar gyfer atal pobl ifanc dan 18 rhag defnyddio gwelyau haul, a ddaeth yn gyfraith yn 2010.

Cafodd Julie ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd yn 2011, a bu’n aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y Pwyllgor Cyllid, a Phwyllgor yr Amgylchedd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Bu hefyd yn cadeirio saith o grwpiau trawsbleidiol a oedd yn ymdrin â meysydd megis plant, canser, a nyrsio a bydwreigiaeth. Yn ystod y Pumed Cynulliad, bu Julie yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Ar 13 Rhagfyr 2018, cafodd Julie ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Penodwyd Julie yn Ddirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar 13 Mai 2021.

Rocio Cifuentes MBE

Rocio yw Comisiynydd Plant Cymru, a chychwynnodd yn y swydd ym mis Ebrill 2022. Ganed Rocio yn Chile, a chyrhaeddodd Gymru yn blentyn 1 oed gyda’i rhieni, yn ffoaduriaid gwleidyddol o Chile. Yn y man, aeth i Brifysgol Caergrawnt, lle bu’n astudio Gwyddor Cymdeithaseg a Gwleidyddiaeth cyn gwneud gradd Meistr mewn Dulliau Ymchwil Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyn dod yn Gomisiynydd, Rocio oedd Prif Weithredwr EYST Cymru, sefydliad Cymru-gyfan sy’n cefnogi pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig, y bu hi’n ei arwain a’i ddatblygu o’r cychwyn cyntaf yn 2005. Bu hefyd yn gwasanaethu fel Aelod Pwyllgor Cymru o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), yn Gadeirydd Clymblaid Ffoaduriaid Cymru, ac yn aelod o fwrdd WCVA a CWVYS. Bu hefyd yn gweithio’n flaenorol i CEMVO (Cyngor Sefydliadau Gwirfoddol Lleiafrifoedd Ethnig), SYSHP (Prosiect Digartrefedd Ifanc Sengl Abertawe), Coleg Gŵyr a Phrifysgol Abertawe. Hi hefyd yw sylfaenydd yr elusen Mixtup sy’n cefnogi pobl ifanc ag anableddau.

Mae Rocio wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith, gan gynnwys Cydnabyddiaeth Arbennig gan Gyngor Mwslimiaid Cymru, Gwobr am Gyflawniad Cymdeithasol a Dyngarol yng Ngwobrau Cymru i Fenywod o Leiafrifoedd Ethnig, a Chymrodoriaeth er Anrhydedd am Oes gan y Sefydliad Materion Cymreig. Ym mis Mai 2022, dyfarnwyd MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, i gydnabod ei gwasanaethau i’r gymuned yng Nghymru.

Dilynwch hi ar Twitter @rocdaboss76 ac @complantcymru

Chantelle Haughton

Mae Chantelle Haughton yn Brif Ddarlithydd mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, Cymrawd Addysgu Cenedlaethol, Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, ac Arweinydd a Hyfforddwr Ysgolion Coedwig.

Chantelle yw Cyfarwyddwr Prosiect y Rhaglen Genedlaethol Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol Cymru (DARPL) ar gyfer ysgolion sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u cyd-gynllunio a’u cyflwyno gyda chynghrair o bartneriaid.

Bu Chantelle yn cadeirio Hanes Pobl Dduon Cymru 365 (2020-2022), mae’n Is-Gadeirydd ar gyfer Rhwydwaith Addysg BAME Cymru, yn Is-Gadeirydd Rhwydwaith Blynyddoedd Cynnar Cymru, yn Ddirprwy Gadeirydd ar gyfer Gweithgor Cydraddoldeb Hiliol Addysg Uwch ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn Gadeirydd Grŵp Llywio Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllunio Gweithredu Gwrth-hiliol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae. Mae hi hefyd yn arholwr allanol mewn dau Sefydliad Addysg Uwch yn y DU ac yn Gymedrolwr Allanol yn rhyngwladol.

Roedd Chantelle yn rhan o Weithgor y Gweinidog gyda’r Athro Charlotte Williams yn gyfrifol am adroddiad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021 ar ‘Adroddiad Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd’.

Roedd Chantelle yn Brif Ymchwilydd gyda Dr Susan Davis ac yn arwain tîm ymchwil mewn prosiect ymchwil a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i archwilio’r diffyg amrywiaeth o ran recriwtio a chadw athrawon a phrofiadau datblygu gyrfa i athrawon o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn y Gweithlu Addysg yng Nghymru (2021). Arweiniodd y gwaith hwn at lunio Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, i recriwtio a chadw Athrawon o Leiafrifoedd Ethnig. Mae cymysgedd amrywiol Chantelle o ran ei threftadaeth a’i theulu, gyda’i phrofiad personol a phroffesiynol, yn cyfrannu at ei gwybodaeth a’i gofal diffuant a chadarn ar gyfer gyrru polisi ac ymarfer cenedlaethol cyfredol a datblygol yn ei flaen. Gallwch ddarllen rhagor am Ddysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol yma: https://darpl.org/

Glenda Tinney

Mae Glenda yn Ddarlithydd yn yr Adran Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae hi’n gweithio fel Tiwtor Derbyn, yn cefnogi myfyrwyr i gyrchu cyrsiau blynyddoedd cynnar. Dysgu awyr agored yw ei phrif ddiddordeb, ac mae ganddi brofiad o Ysgolion Coedwig, sy’n cefnogi ei gwaith gyda phlant ac oedolion yn yr awyr agored. Mae hi’n gwirfoddoli’n aml mewn lleoliad lleol sy’n cefnogi dysgu awyr agored.

Sue Evans, Chief Executive, Social Care Wales

Yn dilyn gyrfa yn y GIG ymgymerodd Sue ag ystod o rolau fel Cyd-gyfarwyddwr a hithau'n gyfrifol am gynllunio, comisiynu a chyflawni gweithredol ar gyfer ystod o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Gweithiodd fel cyfarwyddwr statudol gwasanaethau cymdeithasol, a phrif swyddog gofal cymdeithasol a thai gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen tan fis Gorffennaf 2016, pan ddaeth hi’n Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae gan Sue ddiddordeb brwd mewn hyrwyddo pwysigrwydd rôl gofal cymdeithasol i helpu i ddiogelu a gwella bywydau pobl, trwy rymuso yn ogystal â chymorth.

Sarah McCarty

Dechreuodd Sarah ei gyrfa fel gweithiwr ieuenctid yng Nghymru. Bu'n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau statudol a gwirfoddol, yn arbennig gyda phobl ifanc agored i niwed, ac o ran cefnogi cyfranogiad pobl ifanc. Roedd yn un o aelodau sefydlu Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru gynt, ac ymunodd Sarah â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Cyfarwyddwr ym mis Ebrill 2016. Mae Sarah yn dysgu Cymraeg ac mae'n edrych ymlaen at roi'r hyn y mae wedi'i ddysgu ar waith.

Aelodau’r panel

Jonathan Cooper, Dirprwy Gyfarwyddwr, Estyn

Mae Jonathan yn gyfrifol am ddarparu’r rhaglen arolygu o fewn lleoliadau nas cynhelir. Mae e’n goruchwylio polisi blynyddoedd cynnar a’r Gymraeg o fewn addysg ac mae e ganddo gydgyfrifoldeb am feysydd o ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Ymunodd Jonathan ag Estyn yn 2015 ble y mae wedi gweithio yn y sector cynradd a gydag awdurdodau lleol, yn bennaf. Mae wedi bod yn brif arolygydd yn y sector cynradd a’r sector nas cynhelir, ac mae hefyd wedi bod yn arolygydd cyswllt gydag awdurdodau lleol.

Mynychodd Jonathan Ysgol Gynradd Caedraw, ac Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, ym Merthyr Tudful, cyn cwblhau gradd mewn cerddoriaeth a Thystysgrif Addysg i Raddedigion ym Mhrifysgol Bangor. Cyn ymuno ag Estyn, gweithiodd yn bennaf yn y sector cynradd, fel athro ac yna’n brifathro.

Kevin Barker, Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae, Arolygiaeth Gofal Cymru

Mae Kevin yn bennaeth arolygu gofal plant a chwarae i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae’n goruchwylio’r rheoleiddio ac arolygu dros 3,000 o wasanaethau cofrestredig, ynghŷd â’r rhaglen arolygu ar y cyd gydag Estyn. Mae wedi ymgymryd â nifer o swyddi uwch o fewn AGC, a’r arolygiaethau gynt. Cyn ymuno â’r arolygiaeth bu’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol fel gweithiwr cymdeithasol ac fel uwch-reolwr, yn bennaf mewn gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu.

Helen Williams

Mae Helen yn Bennaeth Hyfforddiant, dysgu a datblygu i’r Mudiad Meithrin.

Ymunodd hi â’r Mudiad yn 2018, ar ôl gweithio i’r fenter iaith Menter Môn am dros 15 mlynedd.

Mae gan Helen profiad a diddordeb helaeth mewn creu a darparu prosiectau sy’n hyrwyddo ac yn hwyluso’r iaith Gymraeg.

Fel aelod o dîm strategol y Mudiad, mae Helen yn arwain gwaith amrywiol yr adran hyfforddi a datblygu. Mae’r portffolio’n cynnwys Croesi’r Bont, sef cynllun iaith trochi Mudiad Meithrin, sy’n cael ei ddarparu i 109 cylch meithrin. O fewn yr adran mae’r brentisiaeth a’r cynllun hyfforddi cenedlaethol, a Cam wrth Gam, y prosiect i ysgolion. Dyma’r ddau brif brosiect a grëwyd er mwyn uwchsgilio gweithlu gofal plant Cymru.

Hyd yn hyn mae dros 3,000 o ddysgwyr sy’n gwneud y cymhwyster Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygu (CCPLD) wedi cymhwyso trwy’r cynlluniau hyn. Academi sy’n gyfrifol am gyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus i staff y Mudiad, ynghŷd ac aelodau a gwirfoddolwyr. Mae prosiectau eraill yn cynnwys rhoi cymorth i leoliadau wrth iddynt weithredu’r cwricwlwm newydd, gan gynnwys cefnogi staff lefel sylfaenol, cefnogaeth iaith Gymraeg ac uwchsgilio trwy brosiectau megis Camau.

Y prif amcan trwyddi draw yw sicrhau bod gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn.